• Words of Cayr: Cymru

Prosiect llesiant creadigol o bell ar gyfer pobl yng Nghymru sy’n byw gyda chanser a thu hwnt.

Mae popeth sydd ei angen i gymryd rhan yn cael ei bostio’n uniongyrchol i’ch drws, er mwyn i chi allu bod yn rhan o’r prosiect ble bynnag rydych chi yn y wlad.

Mae pob bocs yn cynnwys popeth sydd ei angen i greu eich gair, yn ogystal â llyfr gwaith barddoniaeth hunan-dywys. Mae’r gweithgaredd yn canolbwyntio ar air wedi’i wnïo â llaw: darn bach wedi’i wneud fesul pwyth i chi ei gadw.

Ffurflen Gofrestru

Os oes gennych chi ddiddordeb, llenwch y ffurflen yma.

Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Dim ond ar gyfer pobl sy’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd ac sydd â chanser neu sydd wedi cael canser.